Mae Marcaroni ar ei ffordd!!!

Pwy ydy Marcaroni?

Cyfansoddwr holl ganeuon plant Cymru - a'r Byd i gyd - ydi'r dyn rhyfeddol hwn. Mae'r cymeriad unigryw chwedlonnol hwn yn byw yn Nhŵr y Cloc ac yn treulio'i ddyddie yn creu caneuon bendibompom i blant bach bach y byd mawr mawr.

Ffrindie Marcaroni

Bydd ffrind mawr Marcaroni - Oli Odl - yn dod i Dŵr y Cloc bob dydd i helpu gyda'r gwaith o gyfansoddi. Oli ydi'r odl i diwn Marcaroni. Rhyngddyn nhw a chyda help Do a Re, y tylwyth teg, mae un gân newydd sbon yn cael ei chyfansoddi ymhob un rhaglen!
(mwy…)

Marcaroni logo on red curtains

Cyfweliad 2

Pam bod hwiangerddi'n bwysig i ddatblygiad plant bach?

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod y traddodiad hwiangerddi yn diflannu - am nifer o resymau. Mae cerddoriaeth pop a'r teledu yn ddylanwad mawr ac mae nifer o rieni yn teimlo bod yr hwiangerddi traddodiadol yn hen ffasiwn neu'n anaddas.

Bwriad Marcaroni ydi cyflwyno 52 o ganeuon a hwiangerddi newydd sbon i blant bach a'u rhieni - caneuon fydd yn hwyl eu canu ac yn gwneud cyfraniad gwerth chweil i ddatblygiad ieithyddol y rhai bach. Am ben hyn, bydd canu'r hwiangerddi newydd sbon yma gyda'r plant yn help mawr i gyfoethogi'r berthynas rhyngddoch chi a nhw.

Cyfweliad 3

Canu efo'ch plentyn bach.

Mae Caryl Parry Jones yn fam i bedwar o blant - sydd wedi tyfu'n unigolion difyr a hapus iawn. Mae ei phrofiad gyda'i theulu'i hyn ac wrth gwrs fel awdur  a chyfansoddwr i blant bach wedi cyfrannu'n helaeth at Marcaroni. Yma mae hi'n son am sut allwn ni ganu efo'n plant a'r hwyl a'r budd sydd i gael o wneud hynny!

Pwy ydi Marcaroni?

Cyfle prin i glustfeinio ar un o greawdwyr y cymeriad yn disgrifio Marcaroni i Mark Evans yn ystod sesiwn recordio yn y stiwdio.

Tu ol i’r Llen

Rhyfedd fel mae gwaith caled yn edrych yn hudolus o edrych yn ol! Criw gwych, actorion arbennig, ysgrifennu, cyfansoddi a dylunio ysbrydoledig yn dod a'r cyfan yn fyw.