Cyfweliad 2

Pam bod hwiangerddi'n bwysig i ddatblygiad plant bach?

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod y traddodiad hwiangerddi yn diflannu - am nifer o resymau. Mae cerddoriaeth pop a'r teledu yn ddylanwad mawr ac mae nifer o rieni yn teimlo bod yr hwiangerddi traddodiadol yn hen ffasiwn neu'n anaddas.

Bwriad Marcaroni ydi cyflwyno 52 o ganeuon a hwiangerddi newydd sbon i blant bach a'u rhieni - caneuon fydd yn hwyl eu canu ac yn gwneud cyfraniad gwerth chweil i ddatblygiad ieithyddol y rhai bach. Am ben hyn, bydd canu'r hwiangerddi newydd sbon yma gyda'r plant yn help mawr i gyfoethogi'r berthynas rhyngddoch chi a nhw.

Nol