Pwy ydy Marcaroni?
Cyfansoddwr holl ganeuon plant Cymru - a'r Byd i gyd - ydi'r dyn rhyfeddol hwn. Mae'r cymeriad unigryw chwedlonnol hwn yn byw yn Nhŵr y Cloc ac yn treulio'i ddyddie yn creu caneuon bendibompom i blant bach bach y byd mawr mawr.
Ffrindie Marcaroni
Bydd ffrind mawr Marcaroni - Oli Odl - yn dod i Dŵr y Cloc bob dydd i helpu gyda'r gwaith o gyfansoddi. Oli ydi'r odl i diwn Marcaroni. Rhyngddyn nhw a chyda help Do a Re, y tylwyth teg, mae un gân newydd sbon yn cael ei chyfansoddi ymhob un rhaglen!
Bydd Yncl Roli Odl ac Anti Poli Odl hefyd yn ymweld i gyfrannu at yr hwyl.
Y Caneuon
Mae bob un o'r caneuon yn hwyl i'w canu! Bydd y plant a chithe yn eu canu rownd y rîl - unwaith y byddwch wedi'u clywed nhw.
Mae yna CD o chwech o'r caneuon yn y siopau ymlaen llaw - er mwyn i chi gael eu clywed nhw cyn hyd yn oed weld Marcaroni ar y teledu.
Cyfansoddwyd yr holl ganeuon gan Caryl Parry Jones a Christian Phillips. Mark Evans yw Marcaroni - a Non Parry yw Oli Odl yn y gyfres o 26 o raglenni fydd yn dechrau ar Cyw ar Ebrill 27.
Hwiangerddi Newydd Sbon!
Dyna beth ydi'r caneuon yma. Mae ymchwil yn dangos bod yr hen hwiangerddi yn colli tir rownd y Byd. Mae rhai rhieni yn meddwl eu bod yn hen ffasiwn ac wrth gwrs mae cymaint o ddylanwad y teledu a radio ar blant bach a'u teuluoedd.
Mae Marcaroni'n gwneud iawn am hynny - drwy ddod a'r caneuon newydd yma i'r adwy.
Mae ymchwil arall yn dangos pa mor bwysig ydi hwiangerddi a chaneuon gyda rhythm ac odl cryf i ddatblygiad ieithyddol plant bach. Mae'r elfen chwareus a doniol - nonsens weithie - yn helpu rhoi cariad at iaith i blant bach - ac fe all hyn helpu gyda sgiliau darllen pan fyddan nhw'n dechrau yn yr ysgol.
Yn bwysig iawn hefyd, bydd y caneuon yma yn rhai hawdd i rieni a'r rhai sydd yn gofalu am blant eu canu gyda nhw - a bydd hyn yn creu agosatrwydd dwfn rhwng yr oedolyn a'r plentyn.
Nol